MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL ATODOL

(MEMORANDWM RHIF 2)

 

Y BIL CAM-DRIN DOMESTIG

 

1.    Gosodir y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn o dan Reol Sefydlog (“RhS”) 29.2. Mae RhS 29 yn rhagnodi bod rhaid gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, ac y ceir cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gerbron Senedd Cymru os yw Bil Seneddol y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at unrhyw bwrpas sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu sy’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.

 

2.    Cyflwynwyd Bil Cam-drin Domestig 2019-21 (y “Bil”) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 3 Mawrth 2020. Gellir cael copi o’r Bil yn: https://publications.parliament.uk/pa/bills/lbill/58-01/124/5801124_en_1.html .

 

Amcan(ion) Polisi

 

3.    Diben y Bil yw codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o gam-drin domestig a’i effaith ar ddioddefwyr, gwella effeithiolrwydd y system gyfiawnder ymhellach o ran diogelu dioddefwyr camdriniaeth domestig a dod â throseddwyr gerbron y llysoedd, a chryfhau’r cymorth i ddioddefwyr camdriniaeth a’u plant a ddarperir gan asiantaethau statudol eraill.

 

Crynodeb o’r Bil

 

4.    Noddir y Bil gan y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

 

5.    Mae’r Bil yn gwneud y darpariaethau a ganlyn:

 

·         Mae Rhan 1 yn darparu ar gyfer diffiniad statudol o gam-drin domestig sy’n sail i ddarpariaethau eraill yn y Bil.

·         Mae Rhan 2 yn creu swydd Comisiynydd Cam-drin Domestig, yn nodi swyddogaethau a phwerau’r Comisiynydd ac yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus penodedig i gydweithredu â’r Comisiynydd.

·         Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer cyfundrefn gorchmynion ataliol sifil newydd – Hysbysiad Diogelu rhag Cam-drin Domestig (“DAPN”) a Gorchymyn Diogelu rhag Cam-drin Domestig (“DAPO”).

·         Mae Rhan 4 yn gosod dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol haen un yn Lloegr mewn cysylltiad â darparu cymorth i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig a’u plant mewn llochesau a llety diogel arall.

·         Mae Rhan 5 yn gwneud dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn gymwys yn awtomatig ar gyfer mesurau arbennig yn y llysoedd troseddol; ac yn gwahardd y rhai sy’n cyflawni rhai troseddau rhag croesholi eu dioddefwyr yn bersonol yn y llysoedd teulu yng Nghymru a Lloegr (ac i’r gwrthwyneb) ac yn rhoi i lysoedd teulu y pŵer, o dan amgylchiadau penodol, i benodi cynrychiolydd cyfreithiol i gynnal y croesholi ar ran y person gwaharddedig.

·         Mae Rhan 6 yn estyn awdurdodaeth alltiriogaethol y llysoedd troseddol yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i droseddau treisgar a rhywiol ychwanegol.

·         Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth amrywiol a chyffredinol. Yn benodol, mae’r Rhan hon yn galluogi cynnal profion polygraff ar droseddwyr cam-drin domestig fel un o amodau eu trwydded ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ddalfa; yn rhoi’r canllawiau sy’n ategu’r Cynllun Datgelu Trais Domestig ar sail statudol; yn sicrhau y rhoddir tenantiaeth oes ddiogel i bersonau sydd â thenantiaethau oes ddiogel neu sicr pan fo awdurdod lleol yn rhoi’r denantiaeth newydd am resymau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig; ac yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi canllawiau statudol.

 

Y sefyllfa ddiweddaraf ers cyhoeddi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf

 

6.    Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru ar 3 Awst 2020, yn seiliedig ar y Bil fel y’i cyflwynwyd i Senedd y DU ar 3 Mawrth 2020. 

 

7.    Roedd y Memorandwm yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil fel y'i cyflwynwyd.

 

8.    Nodwyd yn y Memorandwm blaenorol ein bod yn credu bod cymal 73 (fel y'i drafftiwyd), yn tresmasu'n sylweddol ar swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru a chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Dywedom y byddai swyddogion yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i geisio cael gwelliant i'r cymal er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r setliad datganoli yn gywir ac yn ei barchu.

 

9.    Rydym yn croesawu'r gwelliant a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar 7 Ionawr 2021 a fydd yn sicrhau bod pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi canllawiau wedi'i gyfyngu'n barchus i faterion a gedwir yn ôl. Bydd y diwygiad i gymal 73 yn atal yr Ysgrifennydd Gwladol rhag cyhoeddi canllawiau sy'n ymwneud â materion wedi’u datganoli i Gymru.

 

Newidiadau i'r Bil ers cyhoeddi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf y mae angen cydsyniad ar eu cyfer.

 

10.Rydym wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ynglŷn â chymal 73 fel y nodwyd uchod. O ganlyniad, nid ydym yn credu bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymal hwn.

 

11.Nid oes angen cymal 3, fel y cyfeirir ato yn y Memorandwm gwreiddiol, gan ei fod yn gysylltiedig â chymal 73.

 

Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil fel y'i diwygiwyd

 

12.Rydym yn croesawu gwelliant Llywodraeth y DU i gymal 73 o'r Bil. Bydd hyn yn sicrhau na fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu cyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Lleol Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru a fyddai'n tresmasu ar faterion datganoledig.

 

13.Ar gyfer achosion pan fyddai canllawiau'n ymwneud â materion nad ydynt wedi'u datganoli (e.e. yr heddlu a chyfiawnder cymdeithasol) byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn ymgynghorai statudol, i sicrhau bod canllawiau'n ystyried y sefyllfa ddatganoledig yng Nghymru.

 

14.Mae'r rhesymeg dros gynnwys cymalau 65, 66 a 68 o fewn y Memorandwm gwreiddiol yn aros yr un fath ag a nodwyd yn flaenorol. Ers hynny, rydym wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ar 16 Rhagfyr 2020, i egluro ymhellach ein safbwynt o ran y cymalau hyn. Dywedom eu bod yn cynnwys addasiadau i droseddau y gellid eu gwneud, yn rhannol, gan Senedd Cymru. Mae deddfwriaeth i weithredu a chadw at rwymedigaethau rhyngwladol, fel y rhai sy'n ofynnol ar gyfer Confensiwn Istanbwl, hefyd yn dod o fewn cymhwysedd y Senedd lle bo deddfwriaeth angenrheidiol yn dod o fewn meysydd datganoledig.

 

Goblygiadau ariannol

 

15.Er nad oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i Lywodraeth Cymru na Senedd Cymru yn deillio o’r pwerau o dan y Bil, efallai y bydd goblygiadau ariannol i Gymru yn y dyfodol o ran yr effaith gyffredinol pe bai dull gwahanol yn cael ei fabwysiadu.

 

Casgliad

 

16.Ym marn Llywodraeth Cymru, mae’n briodol ymdrin â’r darpariaethau hyn yn y Bil hwn ar gyfer y DU gan fod y Bil yn ymdrin â materion datganoledig a rhai nad ydynt wedi eu datganoli. O ran cydlyniad, mae Llywodraeth Cymru o’r farn mai deddfu drwy Fil ar gyfer y DU gyfan yw’r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf effeithiol a chymesur o godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â cham-drin domestig.

 

 

Jane Hutt, AS

Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Ionawr 2021